Y Pwyllgor Plant a Phobl Ifanc

 

CYP(4)-01-11 – Papur 2

 

Tystiolaeth gan y Dirprwy Weinidog Plant a Gwasanaethau Cymdeithasol

 

 

Blaenoriaethau ar gyfer Plant a Phobl Ifanc

 

Cyflwyniad

 

Fel y Dirprwy Weinidog Plant a Gwasanaethau Cymdeithasol newydd, rwy’n hynod falch o gael arwain y gwaith o gyflawni ymrwymiadau’n maniffesto ar gyfer plant a theuluoedd. Rydym wedi cadarnhau ein hymrwymiad i gefnogi plant a theuluoedd a mynd i’r afael â thlodi plant. Ein hamcanion cyffredinol yw helpu teuluoedd i gael gwaith, gwella sgiliau a chau’r bylchau mewn canlyniadau i blant sy’n byw mewn tlodi.

 

Rwy’n arbennig o falch bod fy mhortffolio bellach yn cynnwys yr holl faterion sy’n berthnasol i blant. Mae’n rhoi cyfle i ddatblygu system gefnogi gynhwysfawr a ddi-dor ar gyfer plant agored i niwed a’r rhai sy’n ddifreintiedig oherwydd tlodi.

 

Fel y gwyddoch, mae gwella bywydau plant a phobl ifanc, yn enwedig y rhai sy’n byw mewn tlodi a’r rhai sydd fwyaf agored i niwed, yn gyfrifoldeb i bob un ohonom. Mae gwella canlyniadau i blant, pobl ifanc a theuluoedd yn flaenoriaeth, a’r unig ffordd y gellir cyflawni hynny yw trwy bolisïau cydgysylltiedig, rhagweithiol sy’n canolbwyntio ar wella lles plant. Bydd gan y Pwyllgor Plant a Phobl Ifanc rôl hanfodol yn y broses honno, ac rwy’n falch o gael y cyfle i ymddangos gerbron y Pwyllgor yn fuan i drafod fy mlaenoriaethau.

 

Bydd ein holl waith o gynorthwyo plant a phobl ifanc yn seiliedig ar ein hymrwymiad i Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn yn ogystal â’r defnydd parhaus o’r saith nod craidd fel sail i’n gwaith o ddatblygu polisïau a rhaglenni i gynorthwyo plant a phobl ifanc.

 

Diben

 

Mae’r papur hwn yn rhoi trosolwg i’r Pwyllgor o fy mhrif flaenoriaethau ar gyfer plant, pobl ifanc a theuluoedd yng Nghymru. Dros y misoedd nesaf, byddaf yn nodi’n fanylach sut byddwn yn datblygu rhaglen gydlynol i gyflawni’n ôl y blaenoriaethau, a sut y bwriadwn eu rheoli ar draws y llywodraeth.

 


Tlodi Plant  

 

Yn gynharach eleni, cyhoeddwyd ein Strategaeth Tlodi Plant. Mae’r Strategaeth yn disgrifio’n glir beth y gall Llywodraeth Cymru ei chyflawni o ran helpu i leihau tlodi plant – a gwella canlyniadau teuluoedd ar incwm isel.

 

Mae’n nodi tri amcan strategol ar gyfer mynd i’r afael â thlodi plant sef: lleihau nifer y bobl sydd heb waith; cynyddu sgiliau pobl ifanc a rhieni a mynd i’r afael â’r anghydraddoldebau sy’n bodoli yng nghanlyniadau addysg, iechyd ac economaidd teuluoedd sy’n byw mewn tlodi.

 

Rydym yn gweithio gydag adrannau ar draws Llywodraeth Cymru i nodi’r camau sy’n ofynnol er mwyn cyflawni’r tri amcan gyda’r bwriad o gynhyrchu cynllun gweithredu gwrthdlodi sy’n amlinellu’r dull unigryw sydd gennym yng Nghymru.

 

Cynorthwyo Plant a Theuluoedd

 

Rydym wedi ymrwymo i gynorthwyo plant a theuluoedd a diogelu

hawliau plant. Rydym hefyd am gefnogi rhianta cadarnhaol a rhoi’r

cymorth angenrheidiol i rieni. Byddwn yn gweithio i sicrhau bod

cosbi plant a phobl ifanc yn gorfforol yn annerbyniol trwy hyrwyddo

dulliau eraill cadarnhaol a’n cymorth trwy raglenni rhianta.

 

Er mwyn sicrhau bod ein buddsoddiad mewn plant yn gwneud

gwahaniaeth go iawn, byddwn yn parhau i wella tryloywder cyllidebau

ar gyfer plant a phobl ifanc yn Llywodraeth Cymru.

 

Rydym hefyd am sicrhau bod plant a phobl ifanc yn cael llais a’u bod yn cyfrannu at yr hyn sy’n effeithio arnynt. Rwyf am weld plant yn cyfrannu at y drafodaeth bwysig ynglŷn â gwasanaethau sy’n effeithio arnynt a byddwn yn parhau i wella’r cyfleoedd i bob plentyn a pherson ifanc yng Nghymru i gyfrannu at benderfyniadau ar y materion sy’n effeithio arnynt. Rwyf hefyd am weld plant yn cael eu hystyried yn rhan bwysig o’n cymdeithas ac felly byddaf yn parhau i hyrwyddo delweddau cadarnhaol o bobl ifanc ble bynnag y bo modd er mwyn gwrthweithio portreadau negyddol yn y wasg ac mewn llefydd eraill.

 

Teuluoedd yn Gyntaf

 

Lansiwyd Teuluoedd yn Gyntaf ym mis Gorffennaf 2010 pan gyhoeddwyd dau gonsortiwm (un yn y Gogledd, un yn y De). Mae’n cyd-fynd yn agos â’r gwaith i gefnogi’r Strategaeth Tlodi Plant , yn enwedig yr amcan i leihau anghydraddoldebau sy’n bodoli mewn canlyniadau (iechyd, addysg, ac economaidd) ar gyfer plant a theuluoedd sy’n byw mewn tlodi. Trwy’r Rhaglen Teuluoedd yn Gyntaf, rydym yn gweithio gydag awdurdodau lleol i ddatblygu dulliau amlasiantaethol newydd o gynorthwyo teuluoedd sy’n byw mewn tlodi, gyda phwyslais clir ar atal ac ymyrraeth gynnar. Trwy wneud hyn, ein nod yw lleihau nifer y teuluoedd sy’n datblygu anghenion mwy cymhleth a fydd yn gofyn am ymyriadau mwy costus a dwys yn ddiweddarach.

 

Rydym wedi ymrwymo i gynnal y rhaglen Teuluoedd yn Gyntaf gydol oes y Cynulliad cyfredol. Rydym yn cydnabod bod angen cymorth ychwanegol ar deuluoedd â phlant anabl yn aml iawn, ac mae yna ymrwymiad ychwanegol i barhau i roi cymorth i’r teuluoedd hyn.

 

Dyma fy mlaenoriaethau cyfredol:

 

  1. parhau i wneud Teuluoedd yn Gyntaf yn rhan ganolog o’r ddau gonsortiwm newydd, a cheisio dysgu gwersi wrth weithredu’r rhaglen;
  2. sicrhau bod y Rhaglen Teuluoedd yn Gyntaf yn cael ei chyflwyno’n llwyddiannus yn y tri chonsortiwm newydd (a gyhoeddwyd ym mis Mawrth 2011);
  3. rhoi canllawiau Teuluoedd yn Gyntaf i bob awdurdod lleol yng Nghymru yn haf 2011, mewn da bryd cyn y bydd y rhaglen Teuluoedd yn Gyntaf yn cael ei chyflwyno’n llawn ledled Cymru o fis Ebrill 2012;
  4. cynnwys yr hyn sy’n cael ei ddysgu ar y rhaglen Teuluoedd yn Gyntaf fel rhan annatod o’r gwaith o ddatblygu newidiadau i’r systemau, a hynny ar draws amrywiaeth o wasanaethau sy’n cefnogi plant a theuluoedd.

 

 

Dechrau’n Deg

 

Rhaglen blynyddoedd cynnar flaenllaw Llywodraeth Cymru yw Dechrau’n Deg sy’n darparu llwybr ar gyfer gwella cyfleoedd bywyd plant yn ein cymunedau mwyaf difreintiedig. Mae’n darparu cyfres "gyffredinol" o hawliau y gall pob plentyn a phob teulu sy’n byw mewn ardal amddifadedd ddynodedig eu cael heb brofi modd neu wynebu synnwyr o warth. Mae tystiolaeth ryngwladol yn dangos y gall ymyrraeth ddwys yn y blynyddoedd cynnar wneud gwahaniaeth gwirioneddol i ganlyniadau, os yw’r dulliau cyflawni’n taro deuddeg. 

 

Rydym wedi nodi ymrwymiad clir ein bod am weld mwy o blant a theuluoedd yn cael mynediad at y cymorth sydd ar gael trwy’r rhaglen Dechrau’n Deg. Byddwn yn:

 

·         Dyblu nifer y plant sy’n cael budd o ymweliadau iechyd gwell, llefydd meithrinfa am ddim a gwell cymorth i deuluoedd trwy ein rhaglen “Dechrau’n Deg”;

·         Ehangu cyrhaeddiad y rhaglen a dyblu nifer y bobl sy’n cael budd  o’r rhaglen Dechrau’n Deg i 36,000 yn nhymor nesaf y Cynulliad nesaf, fel bod bron i chwarter o holl blant Cymru rhwng 0 a 3 oed yn gallu elwa. (Ar hyn o bryd, mae tua 18,000 o bobl ifanc yn cael budd o’r rhaglen Dechrau’n Deg ar gost o tua £38 miliwn y flwyddyn).

 

Ar hyn o bryd, mae fy swyddogion yn ystyried dewisiadau ar gyfer cyflawni’r ymrwymiadau hyn.

 

Gofal Plant

 

Mae gofal plant yn hanfodol i helpu rhieni i gydbwyso gwaith a bywyd teuluol ac mae’n elfen allweddol o’r Strategaeth Tlodi Plant. Mae’r Datganiad Polisi Gofal Plant: Magu Plant, Cefnogi Teuluoedd a gyhoeddwyd ym mis Chwefror eleni yn nodi ein blaenoriaethau sef sicrhau gofal plant o ansawdd uchel, sy’n hygyrch a fforddiadwy.

 

Plant yw ein prif ddefnyddwyr a buddiolwyr. Ein gweledigaeth yw bod teuluoedd yn gallu cael gafael ar y gofal plant o ansawdd uchel sydd ei angen am bris maen nhw’n gallu ei fforddio, ond rydym yn cydnabod ein bod yn wynebu cryn her. Mae’r Datganiad Polisi Gofal Plant yn nodi blaenoriaethau uniongyrchol Llywodraeth Cymru ar gyfer gofal plant yng Nghymru ac ar gyfer ei huchelgais y tymor hirach o sicrhau gwelliannau parhaus.

 

Chwarae

 

Byddwn yn parhau i wella cyfleoedd i blant a phobl ifanc chwarae yn ddiogel, a byddwn yn cefnogi camau i sicrhau bod mwy o blant ag anableddau yn gallu manteisio ar gyfleoedd chwarae.

 

Fel Llywodraeth, rydym yn parhau’n llwyr ymrwymedig i hybu chwarae ar gyfer plant a phobl ifanc. Ein Llywodraeth ni yw’r gyntaf yn y DU i ddatblygu deddfwriaeth ar chwarae.

 

Mae’r Mesur Plant a Theuluoedd (Cymru), adran 11, Cyfleoedd Chwarae, yn galluogi Gweinidogion Cymru i roi dyletswydd ar Awdurdodau Lleol i asesu cyfleoedd chwarae digonol ar gyfer plant yn eu hardaloedd nhw a sicrhau’r cyfleoedd hynny mewn perthynas â’r asesiad hwnnw cyn belled â’i fod yn ymarferol bosibl.  

 

Nid yw’r ddyletswydd hon wedi cychwyn eto. Fodd bynnag, fel y nodir yn yr ymateb i argymhelliad 1 Ymchwiliad y Pwyllgor Plant a Phobl Ifanc i Ddarparu Mannau Diogel i Chwarae a Chymdeithasu, mae llawer o waith paratoi wedi’i wneud o ran y ddyletswydd i ddarparu cyfleoedd chwarae digonol ac rwy’n gobeithio cyhoeddi ein cynlluniau ar gyfer gweithredu’r ddyletswydd ar chwarae maes o law. 

Gweithredu’r Mesur Hawliau Plant a Phobl Ifanc (Cymru) 2011

 

Mae Mesur Hawliau Plant a Phobl Ifanc (Cymru), yn rhoi dyletswydd ar Weinidogion Cymru i roi sylw dyledus i Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn (sy’n cynnwys pob un o’r 47 hawl a phrotocolau dewisol) wrth gyflawni eu swyddogaethau. Bydd y Mesur yn dod i rym mewn dau gam - mae’n berthnasol i bolisi a deddfwriaeth o fis Mai ac i bob swyddogaeth o fis Mai 2014.

 

Cafodd y mesur ei gymeradwyo’n unfrydol gan bob plaid ac fe gafodd ‘Gymeradwyaeth Frenhinol' ar 17 Mawrth, gan ddod i rym ar 17 Mai 2011.

 

Mae’r gwaith nawr yn canolbwyntio ar weithredu’r mesur ac ar hyn o bryd mae fy swyddogion yn gweithio ar bob agwedd ar ddarpariaethau’r ddeddfwriaeth a nodwyd.

 

Mae gwaith eisoes wedi cychwyn ar weithredu ymrwymiadau’r maniffesto, sef:

 

 

 

 

Gwasanaethau Cymdeithasol

 

Cefais gyfarfod â’r pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol ddoe, a chael cyfle i amlinellu fy mlaenoriaethau ar gyfer gwasanaethau cymdeithasol, gan gynnwys y blaenoriaethau sy’n ymwneud â phlant a phobl ifanc. Fodd bynnag, roeddwn o’r farn y byddai’r pwyllgor hwn am gael y darlun cyflawn.”

 

Cyhoeddwyd “Gwasanaethau Cymdeithasol Cynaliadwy i Gymru: Fframwaith Gweithredu” fis Chwefror eleni. Roedd yn amlinellu ein gwerthoedd, ein gweledigaeth a’n prif flaenoriaethau ar gyfer cynorthwyo pobl yng Nghymru.  Mewn perthynas â phlant, mae Llywodraeth Cymru wedi nodi’n glir ei bod yn credu mai bod gyda’u teuluoedd sydd orau i blant, pryd bynnag y bo hynny’n bosibl.  

 

Fy mlaenoriaeth ar gyfer gwasanaethau cymdeithasol plant yw cyflawni’r weledigaeth a nodwyd yn Gwasanaethau Cymdeithasol Cynaliadwy i Gymru ac yn ein maniffesto. Byddwn yn defnyddio amrywiaeth o ffyrdd i gyflawni hyn ond ein prif ddull ar gyfer cyflawni fydd creu fframwaith cyfreithiol cydlynol ar gyfer gwasanaethau cymdeithasol. Rydym eisoes wedi cyhoeddi y byddwn yn dwyn ymlaen y cynigion ar gyfer Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol i Gymru ac rwy’n disgwyl y bydd y Ddeddf yn cynnwys mesurau a fydd, er enghraifft, yn:

 

 

Rwy’n bwriadu ymgynghori ar sefydlu un asiantaeth fabwysiadu genedlaethol  i Gymru.

 

Rwyf hefyd yn bwriadu blaenoriaethu gwaith cyflwyno pellach y Gwasanaeth Integredig Cymorth i Deuluoedd. Dyma ein polisi blaenllaw sy’n golygu darparu cymorth integredig i blant a theuluoedd cymhleth trwy wasanaethau amddiffynnol, ataliol ac adfer.

 

Yn 2010, comisiynais adolygiad annibynnol o’r System Cyfiawnder Teuluoedd yng Nghymru a Lloegr ar y cyd â’r Gweinidog Cyfiawnder a’r Adran Addysg.  Mae Panel y System Cyfiawnder Teuluoedd yn ystyried y ffyrdd y mae’r awdurdodau lleol ac asiantaethau eraill sydd heb eu datganoli yn ymgysylltu â phrosesau’r llysoedd ar gyfer achosion cyfreithiol y cyhoedd a theuluoedd. Rwy’n disgwyl derbyn eu hadroddiad terfynol yn yr hydref a byddaf yn ystyried gweithredu canlyniadau’r Adolygiad Cyfiawnder Teuluol yng nghyd-destun anghenion plant a theuluoedd yng Nghymru. Mae ein maniffesto eisoes wedi nodi’n glir, fodd bynnag, y byddwn angen cadw’r egwyddor o gynrychiolaeth ar wahân ar gyfer plant mewn achosion teuluol perthnasol yng Nghymru.

 

Yn ein maniffesto, fe wnaethom gyfeirio at ddau Fesur. Rwyf wedi cyfeirio at gynnwys posibl y Mesur Gwasanaethau Cymdeithasol uchod, ac rwy’n cynnwys y Mesur Plant isod.

 

Mesur Plant

 

Mae’r Mesur Hawliau Plant a Phobl Ifanc (Cymru) 2011 yn rhoi dyletswydd ar Weinidogion Cymru i hyrwyddo gwybodaeth a dealltwriaeth o Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn ac i roi sylw dyledus i’r Confensiwn wrth iddynt gyflawni eu swyddogaethau.

 

Os, wrth roi sylw dyledus i’r dyletswyddau, y gwelwn fod angen newidiadau deddfwriaethol er mwyn sicrhau bod dyletswyddau’r Confensiwn yn fwy effeithiol, yna byddai’r Mesur Plant yn ffordd o wneud hynny.

 

Mae Comisiynydd Plant Cymru yn eiriolwr annibynnol dros hawliau plant ac yn cyflwyno sylwadau i Lywodraeth Cymru ac eraill yn ôl yr angen ar farn plant a phobl ifanc a’r prif faterion sy’n effeithio arnynt. Wrth ddatblygu’r Mesur Plant, byddwn yn ystyried sut i gryfhau ei annibyniaeth.

 

 

 

Gwenda Thomas AC

Y Dirprwy Weinidog Plant a Gwasanaethau Cymdeithasol